![]()
Cawsom wlad i’w
chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.
Cawsom genedl o genhedlaeth
i
genhedlaeth, ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.
A chawsom iaith er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisioes
a’i grym anniddig ar y
mynyddoedd.
(rhan o ‘Etifeddiaeth’ gan Gerallt Lloyd Owen)
Fel ein cefndryd yn y gwledydd Celtaidd, - Iwerddon, Yr Alban, Llydaw, Ynys Manaw a Chernyw, mae Cymru, a fu’n genedl ers dros 1500 mlynedd,yn fyw ac yn iach ac yn effro iawn heddiw. Mae hi’n wlad sy’n byrlymu o hanes,o draddodiadau a diwylliant; wedi ei bendithio droeon ag eneiniad Ysbryd Duw ac wedi’i breintio a thirwedd gogoneddus, yn cyferbynnu o’r mynyddoedd i’r dyffrynoedd, y cymoedd i’r mor. Mae sefydlu Cynulliad i Gymru ym 1999 yn gam nodedig ymlaen ar lwybr ein rhyddid,- ein gobeithion a’n dyheadau ynghyn ar doriad gwawr mileniwm newydd.
Yr iaith Gymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf a siaredir heddiw yn Ewrop, gyda chofnod o farddoniaeth cyn belled yn ol a’r 6ed ganrif. Llwyddodd y Gymraeg yn rhyfeddol, i raddau helaeth, i oroesi bygythiad ei chymydog daearyddol agosaf, yr iaith Saesneg,iaith mwyaf pwerus a dylanwadol y byd. Dros y 40 mlynedd diwethaf,gwelwyd statws newydd i’r Gymraeg, cynnydd yn ei phoblogrwydd ynghyd ag adfywiad syfrdanol yn ei defnydd mewn ardaloedd a gollodd yr iaith, megis y Gogledd-Ddwyrain a chymoedd y De. Bellach, rhyw 0.5 miliwn sy’n ei siarad allan o boblogaeth o 3 miliwn,gyda llawer rhagor yn fyd eang ac yn galonogol, mae cynnydd sylweddol yng nghanran y plant ysgol sy’n derbyn addysg trwy’r Gymraeg. Mae dosbarthiadau dysgu’r iaith i oedolion yn ddirifedi a chanolfannau a mentrau iaith yn y siroedd a’r broydd,felly,gyda dyfalbarhad, gallwn sicrhau fod gwytnwch ein pobl yn dwyn ffrwyth i’r dyfodol.
HEN GENEDL
Hen
genedl, cof hir;
Hen gof, y gwir.
Hen bridd, gwraidd saff;
Hen wraidd, pren praff.
Hen iaith, anadl fer;
Hen anadl, her.
Gerallt Lloyd Owen