|
|
|
Gan Siop y Morfa mae’r dewis ehangaf yng Ngogledd Cymru o lyfrau newydd ac ail-law am Gymru. Mae dros 14,000 o deitlau newydd o fewn ein cyrraedd, yn amrywio o ffaith i ffuglen a llyfrau plant. Rydym yn darparu gwasanaeth archebu llyfrau a gallwn ddanfon eitemau yn uniongyrchol atoch drwy’r post. Mae Siop y Morfa eisioes yn prosesu archebion yn fyd-eang.
|
|
| Mae’n hawdd archebu llyfrau - cymerwch olwg ar gatalog cynhwysfawr Cyngor Llyfrau Cymru (www.gwales.com)ac archebwch eich dewis o deitlau yma ar ein safle ni. |
|
Mae gennym gatalog trawiadol o lyfrau hynafol, prin ac ail-law am Gymru a’r Celtiaid sy’n werth eich sylw - caiff ei adnewyddu’n aml. Os ydych ar drywydd llyfr neu lyfrau sydd bellach allan o brint ac yn anodd cael hyd iddynt, cysylltwch a ni i adael eich rhestr ac fe’u ceisiwn. |