|
|
|
|
|
Siop Gymraeg a Chymreig yw Siop y Morfa, wedi ei lleoli yn Y Rhyl,Gogledd Cymru. Mae yma ddewis eang o Grefftau, Cardiau, Nwyddau, Llyfrau,Fideos, Cryno ddisgiau a Chasetiau. Hefyd, stoc sylweddol o fapiau a deunydd hanes lleol ac adran arwyddocaol ei faint o lyfrau hynafol, prin ac allan o brint, yn canolbwyntio’n bennaf ar Gymru a’r Celtiaid.
Mewn cydweithrediad a’n cyfanwerthwyr, Cyngor Llyfrau Cymru (www.gwales.com), mae Siop y Morfa o fewn cyrraedd i dros 14,000 o deitlau llyfrau newydd ar Gymru. Rydym yn gweithredu gwasanaeth post cyfarwydd ac effeithiol, o’r filltir sgwar i bedwar ban byd (prisiau postio yn ychwaneg). Tros ymron i 20 mlynedd o fasnachu, mae Siop y Morfa wedi adeiladu a datblygu busnes ag iddi barch ac enw da.
Diolch i chi am daro mewn atom - hyderwn fod rhywbeth yma at eich dant. |
|
|
|
|
|
Derbyniwn y prif gardiau credyd a debyd. Mae siec hefyd yn dderbyniol os bydd cerdyn gwarantu siec ynghlwm. |