|
|
|
Hanes y Siop Mae Siop y Morfa wedi’i lleoli yn nhref glan mor Y Rhyl,ar arfordir y Gogledd,gyda’i thraethau euraidd a’i hinsawdd fwyn. Hi yw’r siop Gymraeg a Chymreig sy’n gwasanaethu ardal eang yn ymestyn yn fras o Dreffynnon yn y dwyrain, heibio i Fae Colwyn tua’r gorllewin ac i fyny Dyffryn Clwyd hyd at Trefnant. Fe sefydlwyd y siop gan Dafydd Timothy ym mis Tachwedd 1980,mewn ‘stafell fechan ar Stryd Fawr,Rhuddlan, rhyw 2 filltir o’r Rhyl,y drws nesa’ i fusnes y teulu, sef Fferyllfa’r Castell,a sefydlwyd gan ei diweddar dad ym 1948 ac sydd yn awr yn nwylo ei fam. Athro di-waith oedd Dafydd ar y pryd a chan fod y siop Gymraeg arloesol yn y Rhyl,Gwasg Helygain,yn canolbwyntio eu hegnion ar waith argraffu, gwelodd fod bwlch naturiol yn agor yn y farchnad yn lleol. Fel Cymro wedi ei fagu yn y Rhyl,roedd yn amlwg i Dafydd fod angen parhau ac ehangu y fasnach gwerthu ‘r ‘Pethe’, yn enwedig o gofio’r cynnydd sylweddol o’r 1970au ymlaen yn yr arlwy o lyfrau a recordiau Cymraeg a’r twf aruthrol mewn addysg cyfrwng Cymraeg ynghyd a’r diddordeb newydd i ddysgu’r iaith. Ym 1984, symudwyd i siop fwy ar Stryd Fawr Y Rhyl, prif dref y dalgylch a dyma safle presennol y siop. Mae Dafydd yn wr priod dedwydd iawn,-ei wraig,Jil, yn athrawes i blant a nam golwg a’u 3 o blant,Heledd,Mared a Gwion yn mynychu’r ysgolion Cymraeg lleol,- Dewi Sant a Glan Clwyd. Yn y siop, mae 2 aelod o staff ychwanegol rhan amser abl iawn, sef Hafwen a Nan yn rhadlon, effeithiol a pharod iawn eu cymorth. Yn ogystal a’r dewis arferol o lyfrau a chasetiau,cryno-ddisgiau a fideos Cymraeg ac am Gymru yn Saesneg,mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau Cymreig,tebyg i lechi,llwyau caru,baneri’r Ddraig Goch ac yn y blaen.Rydym yn gyflenwyr cyson i ysgolion a llyfrgelloedd mewn sawl sir trwy Gymru,gyda’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain a Choleg yr Iesu yn Rhydychen ymysg ein cwsmeriaid. Mae Dafydd wedi ceisio arbenigo mewn dau faes,sef llyfrau hanes lleol a stoc canmoladwy o lyfrau hynafol,allan-o-brint, ail-law a phrin am Gymru a’r Celtiaid,gan brofi cryn lwyddiant,nid yn unig yn lleol ond cysylltiadau byd-eang trwy e-bost a’r we.Cofiwch anfon neges atom os yn chwilio’n daer am lyfr neu lyfrau sydd bellach ddim ar gael ac os oes llyfrau ar werth gennych hefyd -fe geisiwn ateb bob ymholiad. Diolch i chi am fynd i’r drafferth i ymweld a’n safle - gobeithio y gwelwch ein safle yn ddiddorol a hyderwn y cewch rhywbeth at eich dant - mwynhewch eich siopa ! |
|
Bydd croeso i chi acw os byddwch yn y cyffiniau. |