Mae gan Siop y Morfa amrywiaeth o grefftau sy’n adlewyrchu hanes a thraddodiadau Cymru. Mae gennym ddewis da o eitemau, fel gwaith llechi, crochenwaith, glo, llwyau serch pren a lluniau a phrintiau hynafol o Gymru.

Yn ogystal a’r rhain, rydym yn stocio dewis eang o nwyddau Cymreig,sy’n cynnwys : Mygiau, pensiliau, teis, crysau-T, cardiau post a theganau meddal y ddraig. Mae stoc dda o faner Cymru - Y Ddraig Goch - mewn gwahanol feintiau, yn gwerthu’n dda drwy’r flwyddyn.

Siop y Morfa yw’r prif le yn lleol am y dewis gorau o gardiau Cymraeg, boed yn Benblwydd,Dyweddiad, Priodas, Genedigaeth ac yn y blaen ac mae amrediad enfawr o gardiau Nadolig yma adeg yr Wyl, yn ogystal a dewis dibendraw o galendrau.

 

Os am anrheg o atgof o Gymru,wel Siop y Morfa amdani i brynu rhywbeth gwreiddiol neu anarferol. Edrychwn ymlaen i’ch croesawu.

Nol i’r Cychwyn