Mae gan Siop y Morfa amrywiaeth llawn o gardiau cyfarch yn Gymraeg. Cewch ddewis o’n stoc helaeth ar gyfer Penblwydd - Dyweddiad - Priodas - Genedigaeth - Bedydd - Brysiwch Wella - Cydymdeimlad - Cartref Newydd - Ymddeoliad - Llongyfarchiadau - Diolch, yn ogystal a dyddiau penodol fel Santes Dwynwen, Sul y Mamau/Tadau, Pasg ac wrth gwrs y Nadolig.

Rydym yn cadw amrediad o gardiau hyfryd gyda lluniau camera trawiadol golygfeydd gwych Gogledd Cymru gan gwmniau fel Cymru Classics ac Origins. Mae’r rhain yn wag oddi fewn ichi gael ychwanegu’ch cyfarchiad personol.

Os am fwy o wybodaeth ar ein cardiau,cofiwch alw neu anfon e-bost at dafydd@siopymorfa.com.

Nol i’r Cychwyn