Mae gan Siop y Morfa ddewis da o anrhegion i rai o bob oed ar ein tudalen Grefftau, yn ogystal a’r canlynol:

Mae gennym ddewis arbennig o eitemau ar Rygbi Cymru,yn llyfrau,fideos a chysau-T. Beth am ddarllen am hynt a helynt Graham Henry, Neil Jenkins ac eraill neu eistedd yn ol i wylio’r cewri ar eich sgrin deledu yn llawn edmygedd a balchder yn eich crys-T Cymreig!

Yma, cewch amrywiaeth o gwpanau’r Ddraig Goch, crysau-T, baneri, llyfrau, casetiau, cryno ddisgiau, fideos ac mae mynd mawr ar dyweli’r Ddraig Goch!

Mewn stoc acw hefyd mae’r arlwy cyffrous newydd o ddillad y Ddraig Goch gan y cynllunydd, Jane Davies -- ffrogiau a ‘fleece’ llewys hir a byr mewn cynllun Trawiadol iawn!

Siop y Morfa yw’r cyflenwr lleol ar gyfer argraffiad unigryw Cymreig o’r gem hynod boblogaidd ‘MONOPOLY’. Beth am fentro eich gallu yn erbyn teulu a chymdogion am y cyntaf i fachu Eryri, Castell Caernarfon neu ganolfannau eraill o bwys...!

Nol i’r Cychwyn